Amdana i

 

Rwy’n Awdur/Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd llawrydd o Gaerdydd.

Hyfforddais fel actores yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, ac ar ol blynyddoedd o weithio fel actores, fe droiais fy sylw at gyfarwyddo theatr.  O’n i wedi eisiau creu gwaith fy hun erioed, felly pan daeth y cyfle i ymuno a thim Dirty Protest  ( nol yn 2008) a chreu gwaith theatr gyffroes newydd, mewn yurt - fe neidiais ar y cyfle i gymryd rhan. Yn fuan iawn fe ddes i’n rhan o’r tim craidd, yn cynhyrchu, cyfarwyddo, sgwennu ac actio mewn dramau newydd gan ddramodwyr cyffroes Cymraeg. Es i ymlaen i weithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt yn Sherman Cymru, lle ges i gyfle i ddatblygu a chyfarwyddo dramau sawl awdur. Yna, symudais i draw i weithio am gyfnod fel Cyfarwyddwr Cyswllt gyda Theatr Genedlaethol Cymru a The Other Room.

Ers hynny, dwi wedi bod yn jyglo rhianta, cyfarwyddo, sgwennu a chynhyrchu a chreu theatr, ffilm a theledu - a mae e wir yn teimlo mor manic a mae’n swnio, ond mae’n cadw bywyd yn ddiddorol!

Yn 2015 nes i ac Alun Saunders ddechrau cwmni theatre Neontopia, gyda angerdd i ddatblygu theatr ddwy-ieithog, yn dilyn llwyddiant ein cynhyrchiad A Good Clean Heart. Ennillodd y cynhychiad sawl gwobr, a roddodd hwb i ni fwrw mlaen i gynhyrchu drama arall gan Alun Saunders - Tuck yng Nghanolfan y Mileniwm.

Yn 2018 ges i fy newis i fod yn un o 4 cyfarwyddwr ar gynllun Labordy ( Ffilm Cymru, BFI,S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru) Rhoddodd hwn gyfle i fi ddatblygu fy sgiliau Cyfarwyddo i Ffilm a Theledu, gan weithio gyda’r ddwy fentor Josie Rourke a Rachel Tunnard.

Arweiniodd hyn ata i’n estyn allan i fyd teledu a ffilm, ac at Fiction Factory, lle ges i’r cyfle i weithio ar y gyfres Gwaith Cartref i S4C. Ymunais a’r tîm cynhyrchu ar gyfres 7 a dysgais lwyth am storio, datblygu sgriptiau a chynhyrchu drama deledu am sawl cyfres.

Ar ôl gweithio’n agos yn greadigol gyda Ffion Williams ( cynhyrchydd Gwaith Cartref) daethon ni at ein gilydd i greu cyfres newydd 6 rhan i S4C o’r enw Bregus, a ddarlledwyd yn 2021. Cyd- ysgrifennais ddwy bennod a chyfarwyddais pennod 4 o’r gyfres.

Es i mlaen wedyn i gyfarwyddo cyfres ddrama/gomedi newydd LGBTQ+ gan Alun Saunders- Jam i S4C.

Fel awdur, nes i gwrs ysgrifennu i sgrin gyda NFTS, ac mae gen i 3 ffilm fer sydd wedi cael eu cynhyrchu. Y diweddaraf BAICH/BURDEN - oedd fy ffilm gyntaf fel Awdur/Cyfarwyddwr, a gafodd ei wneud drwy gynllun Beacons, a chafodd ei ariannu gan BFI, Ffilm Cymru ac S4C - Cynhyrchwyd gan Severn Screen.

Arweiniodd hyn at gefnogaeth gan Ffilm Cymru i ddatblygu fy ffilm hir gyntaf - Mogi/Suffocate.

Yn 2022 cefais fy newis i fod yn rhan o BFI NETWORK@LFF. Yn mwy diweddar, dwi wedi parhau i ddatblygu fy sgript a syniadau sgwennu ar gwrs The Writer’s Lab New York drwy eu cynllun Ewrop a UK. Cefais fy mentora gan Nicola Kropp, a chefnogaeth greadigol gan Julia Berg, Nitza Wilon Elizabeth Kaiden.

Tra’n datblygu fy ngwaith sgwennu fy hun, dwi hefyd wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd ar gyfres ddrama newydd - Cleddau/The One That Got Away a Gynhyrchwyd gan Blacklight TV i Banijay ac S4C.

Dwi’n falch iawn o’r amrywiaeth o waith dwi’n cael gwneud fel Awdur/Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd. Mae’n hyfryd cael rhoi’r blynyddoedd o brofiad sydd gen i yn y diwydiant, i ddefnyddiau gwahanol, gan wisgo hetiau gwahanol i bob prosiect Ffilm, Teledu a Theatr dwi’n ymwneud â hi. Pwy a wyr, bosib byddai’n ffeindio hetiau newydd i’w trio cyn hir!

 

Head shots 2016-77.jpg